Gwerthusiad o'r Rhaglen Sgiliau Hyblyg (FSP) gan OB3

Penodwyd OB3 gan Lywodraeth Cymru i gynnal gwerthusiad o’r Rhaglen Sgiliau Hyblyg (FSP).

Mae’r adolygiad yn ystyried:

  • albynnau'r Rhaglen Sgiliau Hyblyg hyd yma, gan gynnwys nifer y cyflogwyr ac ymyriadau hyfforddi a gefnogwyd, a'r mathau o ymyriadau hyfforddi a ddarparwyd

  • canlyniadau ac effeithiau’r FSP i gyflogwyr, gan gynnwys canlyniadau economaidd, effaith busnes, perthnasoedd a ffurfiwyd neu a gryfhawyd gyda darparwyr dysgu a’r hyn y byddai cyflogwyr wedi’i wneud heb y rhaglen

  • canlyniadau ac effeithiau'r FSP i gyflogeion, gan gynnwys unrhyw ddeilliannau cyflogaeth a sgiliau ac effeithiau ar unigolion

  • gwelliannau posibl i’r FSP yn y dyfodol, gan gynnwys ystyried a yw cynllun a chyfradd ymyrraeth y rhaglen yn briodol, argaeledd cyrsiau cyfrwng Cymraeg i ateb y galw, hyblygrwydd ac ymatebolrwydd y rhaglen i anghenion busnes, effeithlonrwydd y cwsmer taith o ran cael mynediad at gymorth FSP a gwersi a ddysgwyd ar gyfer ymyriadau sgiliau yn y dyfodol.

Cynhelir yr adolygiad rhwng Rhagfyr 2023 a Mai 2024. Mae'r fethodoleg yn cynnwys ymchwil desg a gwaith maes gydag ystod eang o gyfranwyr gan gynnwys cyflogwyr a gweithwyr busnesau sy'n derbyn cyllid FSP.