Heledd_01_Final.png

Nia Bryer

Cyfarwyddwr

 

Cysylltu

nia@ob3research.co.uk
07792 609821

Ymunodd Nia gyda OB3 yn 2007 ac mae ganddi dros bymtheng mlynedd o brofiad fel ymchwilydd cymdeithasol. Mae ganddi gefndir ymgynghorol cryf ac mae wedi arwain ar ystod eang o gomisiynau ymchwil a gwerthuso ar gyfer cleientiaid yng Nghymru. Mae hi wedi cyfarwyddo nifer o astudiaethau gwerthuso sydd wedi mabwysiadu theori newid, dulliau gwerthuso ffurfiannol a chrynodol.

Mae Nia wedi cwblhau astudiaethau ar gyfer amrywiol adrannau Llywodraeth Cymru, WEFO, HEFCW, Cyngor y Gweithlu Addysg, Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Mae ganddi ddiddordeb arbennig ym meysydd polisi addysg a sgiliau, busnes a’r economi, iechyd a gofal cymdeithasol yn ogystal â chydraddoldeb ac amrywiaeth.

Mae Nia yn arwain gwaith arolwg meintiol OB3 ac wedi ei hyfforddi i lefel uwch mewn meddalwedd arolwg SNAP. Mae hi hefyd yn aelod cyswllt o’r Gymdeithas Ymchwil i’r Farchnad (MRS). Cyn ymuno ag OB3, roedd Nia yn Rheolwr Prosiect yn Awdurdod Datblygu Cymru ac yn ddiweddarach yr Adran Economi a Thrafnidiaeth yn Llywodraeth Cymru. Roedd hi’n gyfrifol am ddau brosiect Cymorth Menter a oedd yn canolbwyntio ar gefnogi grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.